Ffair Tafwyl

DYDD SADWRN – 23 Mehefin 2012 – 12.00-20.00

Mynediad Am Ddim!

spacer

Bydd Ffair Tafwyl yn ddigwyddiad arbennig a chyffrous fydd ar raddfa llawer mwy na Tafwyl y blynyddoedd cynt. Am y tro cyntaf erioed bydd ffair yr ŵyl ar y 23ain o Fehefin yn cael ei chynnal yng Nghastell Caerdydd, ac yn rhan o ddigwyddiadau Gŵyl Caerdydd.

Bydd stondinau amrywiol yn y ffair yn hyrwyddo cynnyrch Cymreig; yn ogystal â gweithdai a sesiynau llenyddol, cerdd, celf, coginio a drama. Bydd prif lwyfan gyda pherfformiadau byw gan artistiaid gwerin, roc a phop mwyaf llwyddiannus y sîn gerddoriaeth Gymraeg, sesiynau acwstig, diddanwyr stryd, sesiynau dawns, maes chwaraeon, a gweithgareddau i blant o bob oedran.

Gyda phleser mawr mi allwn gadarnhau manylion cyntaf perfformwyr a chyfranwyr y ffair…..ond gyda llawer mwy i ddod dros yr wythnosau nesaf cofiwch gadw golwg ar y wefan, ein tudalen Facebook, a’n cyfrif Twitter.

Cliciwch ar bob categori am fwy o wybodaeth

 

 

gipoco.com is neither affiliated with the authors of this page nor responsible for its contents. This is a safe-cache copy of the original web site.