Main Content

Croeso i wefan HGCA

HGCA yw is-adran grawnfwydydd a hadau olew'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB).    Wedi ei ariannu gan ardoll statudol ar dyfwyr, gwerthwyr a phroseswyr grawnfwydydd a hadau olew yn y Deyrnas Unedig, mae’r HGCA yn derbyn incwm o tua £10 miliwn y flwyddyn.  

Codir ardollau gan yr AHDB ar y cnydau grawnfwydydd a hadau olew canlynol a dyfir yn y Deyrnas Unedig: gwenith, haidd, ceirch, rhyg, corn, rhygwenith, siprys, had rêp, had llin, had blodyn yr haul a ffa soia.  

Mae HGCA yn cynnal gwaith ymchwil a datblygu, gwybodaeth i’r farchnad, gweithgareddau cadwyn gyflenwi a rhaglenni marchnata defnyddwyr er budd y sector grawnfwydydd a hadau olew.  

Ein Gweledigaeth: I greu cadwyn gyflenwi cnydau âr ddeinamig i’r Deyrnas Unedig ble gall pawb elwa o sector gynaliadwy.

Ein Cenhadaeth: I gyflenwi diwydiant âr o safon byd trwy annibyniaeth, arloesi a buddsoddi.

Am ragor o wybodaeth ar weithgareddau HGCA, cliciwch ar y ddewislen tab ar frig y dudalen.

Cliciwch yma am fanylion cyhoeddiadau corfforaethol HGCA 

 

Bwrdd HGCA

Mae Bwrdd yr HGCA yn cynnwys cynrychiolwyr tyfwyr a phroseswyr, ynghyd ag aelod annibynnol a Chadeirydd. Mae Cadeirydd yr HGCA hefyd yn eistedd ar Fwrdd yr AHDB.

Penodir aelodau Bwrdd HGCA gan Gadeirydd yr HGCA a chynrychiolydd neu gynrychiolwyr o Fwrdd yr AHDB trwy system benodi agored. Penodir aelodau i Fwrdd yr HGCA am dymor o dair blynedd.

Mae Bwrdd yr HGCA yn gyfrifol am strategaeth yn y sector grawnfwydydd a hadau olew, ac yn cyflwyno Cynllun Busnes Blynyddol i’r AHDB i’w gyhoeddi yng Nghynllun Corfforaethol yr AHDB. Mae Bwrdd yr HGCA hefyd yn defnyddio ardollau grawnfwydydd a hadau olew i gyflawni ei Gynllun Busnes Sector Blynyddol.

Cliciwch yma am fanylion aelodau Bwrdd HGCA 

Cliciwch yma am fanylion aelodau Pwyllgor Ymgynghorol HGCA 

 

Gwybodaeth Gyswllt

HGCA
Agriculture and Horticulture Development Board
Stoneleigh Park
Kenilworth
Warwickshire
CV8 2TL

Cliciwch yma am fap manwl o’r safle 

Rhif ffôn: 0247 669 2051
E-bost: admin@hgca.com

Ymholiadau ardoll

Rhif ffôn: 0247 647 8605
E-bost: levy@ahdb.org.uk

Ymholiadau cyllid

Rhif ffôn: 0247 647 8614
E-bost: finance@ahdb.org.uk 

Ymholiadau adnoddau dynol

Rhif ffôn: 0247 647 8640

Cliciwch yma am ragor o fanylion cyswllt

-
gipoco.com is neither affiliated with the authors of this page nor responsible for its contents. This is a safe-cache copy of the original web site.