Lansiad tu chwith ym Mhenlan Fawr, Pwllheli
Ebrill 10, 2012 gan golygydd
08.04.12
Diolch i Bob Delyn a’r Ebillion am gael rhannu’r llwyfan a diolch i dafarn Penlan, Pwllheli am y croeso cynnes. Diolch hefyd i bawb a ddaeth i gefnogi dydd Sul.
Rhiannon Marks / Bob Delyn / Elin Angharad
Dathlu lansiad cyfrol 36
Dathlwyd lansiad cyfrol 36 yn ystod gig Bob Delyn a’r Ebillion yn nhafarn Penlan Fawr, Pwllheli dydd Sul 08.04.12. Cafwyd cyflwyniad arbennig i tu chwith gan Bob Delyn, cerdd gyfarch i dafarn Penlan gan Guto Dafydd, darlleniad o gerdd Llŷr Gwyn Lewis i deulu Caerdegog gan Llŷr ei hun a cherdd ac ychydig o hanes enwau hen dafarndai Pwllheli gan Osian Rhys Jones.
Elin Angharad / Guto Dafydd / Llŷr Gwyn Lewis / Osian Rhys Jones
Mynnwch gopi
Mae’r gyfrol ddiweddaraf yn 176 o dudalennau am £5 y copi ac ar gael mewn siopau llyfrau lleol neu trwy gysylltu â tu chwith ar Facebook, Twitter neu e-bost: tuchwith@googlemail.com.
Lansiad tu chwith!
Ebrill 3, 2012 gan golygydd
Lansiad cyfrol newydd tu chwith!
08.04.12
Tafarn Penlan Fawr, Pwllheli
i ddechrau oddeutu 3:00yh yn ystod gig Bob Delyn a’r Ebillion
Gyda diolch yn fawr iawn i Bob Delyn am adael i ni rannu llwyfan gydag o a’i Ebillion ac i dafarn Penlan am y croeso.
CROESO CYNNES I BAWB!
Adolygiad: Fala’ Surion – Cwmni’r Frân Wen
Mawrth 27, 2012 gan golygydd
Branwen Rhys Huws fu’n gwylio perfformiad Cwmni’r Frân Wen o ‘Fala’ Surion’ yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth…
Pan ofynnwyd i mi ’sgwennu adolygiad o’r ddrama Fala’ Surion, rhaid cyfaddef mod i wedi mynd i banig, braidd. Er mod i’n gwybod mai addasiad o gyfrol o straeon byrion gan Rachel Trezise oedd hi, ro’n i’n cywilyddio wrth gyfaddef mod i ddim wedi darllen Fresh Apples, nac unrhyw ddarn arall o’i gwaith, o ran hynny. Diolch byth, cefais fy niddanu drwy gydol y llwyfaniad, felly pleser oedd mynd ati i ’sgwennu’r adolygiad ’ma.
Fel dywedais i’n flaenorol, addasiad o’r straeon ydy’r ddrama a hynny gan y ddwy awdures boblogaidd: Catrin Dafydd a Manon Eames. Rhwng hynny â’r ffaith i Fresh Apples ennill gwobr EDS Dylan Thomas ym 2006, ro’n i’n sicr y byddai’r gynulleidfa mewn dwylo profiadol a chraff – ac ro’n i’n iawn.
Yn ogystal â chael cystal awduron yn gysylltiedig â’r prosiect, roedd cast o actorion ifanc a chyffrous i hoelio’n sylw yn – a chan fod yma bum stori o fewn un ddrama, roedd y llwyfan yn fwrlwm o egni. Efallai fod un neu ddau yn perfformio o’r newydd gyda Chwmni’r Frân Wen, ond mae’r cast i gyd yn wynebau adnabyddus ar y llwyfan ac ar y sgrin erbyn hyn, a dyma sut dwi’n eu nabod nhw: Carys Eleri, Pobl y Cwm, Teulu; Dyfrig Evans, Emyn Roc a Rôl, Tipyn o Stad; Lowri Gwynne, Rownd a Rownd, Cymru Fach; Catrin Mara, Pobl y Cwm, Cei Bach; Rhodri Meilir, R-r-r-r-rapsgaliwn!, My Family; Rhodri Miles, Con Passionate, Emyn Roc a Rôl; a Lynwen Haf Roberts, yn Deffro’r Gwanwyn yn ddiweddar.
Canolbwyntiodd y ddwy sgriptwraig ar bum stori o’r 11 o straeon byrion gwreiddiol, ac o ganlyniad, cafwyd amrywiaeth o ieuenctid ac oedolion yn rhannu’r llwyfan wrth iddyn nhw brofi ansicrwydd, gobaith, tensiynau a dryswch bywyd. O’r hyn ro’n i wedi ei glywed am y campwaith, Fresh Apples, gwyddwn mai llwyddo i adlewyrchu bywyd yn y Gymru drefol wnaeth Trezise, yn enwedig bywyd yr ieuenctid yng nghymoedd y de. Cymerais yn ganiataol, felly, mai addasiad deheuol yn unig fyddai’r sgript Cymraeg – ond o fewn munudau o eistedd yn fy nghadair, trowyd y rhagdybiaeth honno ar ei phen, a hynny, yn y ffordd orau bosib. Yr oedd pob stori yn wahanol, a byddai’r dafodiaith a’r acenion hefyd yn amrywio wrth lifo o enau’r actorion. Yn ogystal â lleoli ambell stori yng nghymoedd y de, felly, cafwyd cymeriadau hefyd yn adrodd eu hanes o flaen cefnlen ddwyreiniol, neu o ystad dai yn y gogledd, megis Caernarfon neu Flaenau Ffestiniog.
Rwy’n amau i’r ffactor yma chwarae rhan fawr yn apêl gyffredinol y ddrama i mi, oherwydd er mod i wrth fy modd yn gwrando ar glonc a chlebran deheuol, roedd hi hefyd yn braf cael amrywiaeth o ran llais a chefndir wrth i ni symud o le i le. Bu i’r ddwy sgriptwraig ei dallt hi i’r dim, felly – nid cyfieithu’r sgript yn unig a wnaethon nhw, ond ei haddasu er mwyn sicrhau ei fod yn apelio at gymaint o bobl â phosib. O wneud hynny, roedd mwy o botensial i brofiadau’r cymeriadau fod yn berthnasol a chredadwy i bawb, lle bynnag y maent yn byw, a beth bynnag fo eu profiad o fywyd.
Egyr y ddrama gyda’r stori Fala’ Surion, sef hanes Matt (Dyfrig Evans), bachgen chwilfrydig yn ei arddegau sy’n ei ganfod ei hun mewn tipyn o bicil. Roedd o’n byw mewn tref nid yn annhebyg i Gaernarfon, ac er ei fod yn rhannu hoffter ei dad o eiriau, nid ydynt yn cyfathrebu’n hawdd gyda’i gilydd. Yn sgil ei rwystredigaeth, ac mewn ymgais i deimlo’n rhan o’r criw, penderfyna Matt golli ei wyryfdod un prynhawn poeth o haf – ond gwna hynny o dan amgylchiadau go wahanol i’w ffrindiau, a thra amheus at hynny…
Fe’n tywyswyd ni yn Ieir i fywyd Amber (Lynwen Haf Roberts), merch chwech oed o gymoedd y de, yn byw dan ofal ei mam-gu a’i thad-cu, a oedd yn ei magu yn absenoldeb ei mam. Er bod gan Amber berthynas agos gyda’i thad-cu (Rhodri Miles), byddai tensiwn yn y cartref ar brydiau, yn enwedig gydag ymweliadau cyson ei chyfnither, a fyddai’n mynnu gormod o sylw’r oedolion. Yn y diwedd daeth rhwystredigaeth Amber druan i’r amlwg gydag ymweliad â ffatri ieir, wrth iddi sylweddoli bod ieir newydd ei thad-cu wedi eu gorfodi i fyw bywydau caeth, cul, a hynny yn erbyn eu hewyllys…
Yn Jonesiaid, cafwyd stori Kristian (Rhodri Meilir), a oedd yn byw ar stad o dai ble’r oedd pawb wedi eu henwi’n ‘Jones’ – oni bai am un ferch o dras Eidalaidd, Lissa (Catrin Mara). Er bod Lissa dipyn yn hŷn ’na Kirstian, mae’r bachgen dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â hi, ac yn ofnadwy o eiddigeddus o’i chariad, Alan, sy’n ei cham-drin yn ei dyb ef. Daw Kirstian i’r casgliad y dylai ddysgu gwers i Alan, ac mai fo ydi’r ‘dyn’ i wneud hynny…
Yna, fe’n cyflwynwyd i stori serch go wahanol yn Valley Lines: cafwyd Caitlin (Lowri Gwynne), a oedd yn dal trên “Valley Lines” i’w gwaith bob dydd yng Nghaerdydd; ac Iolo (Rhodri Meilir), a oedd hefyd yn defnyddio’r un trên i gyfudo o’i gartref i’r gwaith. Dyma ddau gymeriad unig a fyddai’n croesi llwybrau ei gilydd bob dydd, ac eto’n methu magu’r plwc i siarad gyda’i gilydd – hynny yw, tan un prynhawn pan daflwyd y ddau at ei gilydd…
Yn stori olaf y ddrama, Jigsô, fe ddysgon ni am Heidi (Carys Eleri), merch wedi ei magu i beidio â bod yn uchelgeisiol mewn bywyd. Diolch i feddylfryd ‘traddodiadol’ ei thad, bu iddi briodi’n ddeunaw, ac o’r herwydd roedd hi’n hynod anhapus. Wrth i’r blynyddoedd lusgo heibio iddi, hiraethai am gael treulio amser yn y caffi Eidalaidd unwaith eto, a bod yng nghwmni Paolo (Rhodri Meilir)…
Er y byddech chi’n dychmygu mai tristwch ac anobaith fyddai’n chwarae rhannau blaenllaw yn y straeon, cafwyd dogn cryf o hiwmor tywyll i felysu’r cyfan, ac roedd yna amryw o linellau cofiadwy. Cafwyd un sgwrs ffraeth, er enghraifft, rhwng Amber a’i thad-cu yn Ieir, a aeth rhywbeth fel hyn:
Amber: Tad-cu, pam fod lliw eich cwrw chi yn fwy gole na’ chwrw Mam-gu?
Tad-cu: Guinness ma’ dy Fam-gu yn yfed.
Amber: O. Pam?
Tad-cu: Achos bo ’ddi’n feminist.
Yn effeithiol iawn, ac fel modd o greu cyswllt rhwng rhai storïau, fe ddefnyddiwyd ambell gymeriad ymylol mewn mwy nag un stori – yn Fala’ Surion ac yn Jonesiaid, er enghraifft. Felly, er y gellir dadlau fod pob stori yn sefyll ar wahân i’w gilydd, dyma gyffyrddiad bach a oedd yn ychwanegu dyfnder a llif i’r ddrama wrth iddi fynd rhagddi. Yr unig stori a oedd yn ei datgelu ei hun mewn pytiau rhwng y straeon eraill oedd Ieir, a gwnaethpwyd hynny yn slic ac effeithiol, gan gynnig brathiadau pwysig o blentyndod Amber dros amser.
Ar brydiau, ro’n i’n teimlo fy mod i’n gweld llawer mwy ar ambell wyneb na’i gilydd, ac efallai y byddai hi wedi bod yn bosib gweld ychydig mwy ar ambell un. Serch hynny, roedd hi mor braf gwylio actores fel Lynwen Haf Roberts, wyneb digon newydd ar y sîn, yn meddiannu’r llwyfan cystal ag yn mynnu ei lle fel af yr oedd yn ei pherfformiad penigamp yn Deffro’r Gwanwyn y llynedd.
Cyn gwylio’r ddrama, nes i ddarllen yn rhywle mai ‘cyfrifoldeb’ yw prif thema Fala’ Surion. Ond yn fy marn i, y thema gryfa’ sy’n rhedeg drwyddi yw ‘absenoldeb’, ac absenoldeb rhiant neu rieni. Cawn ein cyflwyno i bobl ifanc sy’n cael cryn drafferth i ddelio gyda phob math o agweddau ar fywyd, a chredaf fod pob stori’n awgrymu mai o ganlyniad i esgeulustod ac absenoldeb eu rhieni y mae hynny – boed yr absenoldeb yn un llythrennol, neu emosiynol. Ceir rhieni sy’n methu cyfathrebu â’u plant, neu’n eu hanwybyddu’n llwyr; rhieni sy’n y carchar, neu ddim o gwmpas i osod esiampl; rhieni sydd wedi hel eu pac, ac yn byw dramor… . Mae rhiant pob cymeriad wedi effeithio’n negyddol arno ac mae hyn oll yn bwydo ansicrwydd y plant wrth iddynt geisio canfod eu lle yn y byd. Llwyddodd pob aelod o’r cast i ennyn fy nghydymdeimlad yn hynny o beth, ac i mi, yr absenoldeb hwn oedd yn clymu a phlethu bywydau’r cymeriadau ynghyd.
Cadwyd llwyfan Fala’ Surion yn ofod ddigon syml ac agored, ac eto, yn gefndir i’r moelni pwrpasol taflwyd amryw o wahanol ddelweddau ar gefnlen, y tu ôl i’r cymeriadau. Felly gyda phob stori newydd, neu yng nghanol ambell stori, byddai golygfa neu lun yn cael ei daflu ar y sgrin er mwyn dynodi lleoliad neu deimladau’r cymeriadau – er enghraifft, gwelwyd rheilffyrdd a chymoedd, strydoedd ac ieir mewn cewyll, a’r cefndir diwydiannol a oedd yn chwarae rhan mor annatod ym mywydau’r ieuenctid. Roedd yno fylbiau hefyd yn crogi o’r to, a byddai’r rhain yn eu tro yn awgrymu lleoliad trefol neu ddinesig, neu’r goleuadau hynny sy’n gwibio heibio wrth sefyll ar drên.
Wrth gloi, gallaf ddweud yn onest i mi fwynhau fy noson yn y theatr yng nghwmni cast Fala’ Surion. Ac eto, am ryw reswm, ni chefais fy argyhoeddi’n llwyr gan y cynhyrchiad yn ei gyfanrwydd. Peidiwch â gofyn imi pam, oherwydd dwi’m yn rhy siŵr pam yn union fy hun! Dwi’n meddwl i mi deimlo ar brydiau fod llinyn storïol rhai darnau ychydig yn wan, neu’n annelwig – ond wedi dweud hynny, dwi’n gwybod petawn i’n mynd ati i ddarllen y gyfrol wreiddiol o straeon y byddwn i’n canfod gwir ddyfnder i stori a llais pob cymeriad yn ddi-os. Gall hyn ond olygu un peth – bydd yn rhaid i mi gael gafael ar gopi o Fresh Apples, ac ymdrochi eto ym myd sur-felys ieuenctid Fala’ Surion.
Lluniau gan Keith Morris
Mae Branwen yn gyn-fyfyrwraig yn yr Adran Gymraeg, Aberystwyth. Mae bellach yn gweithio fel Pennaeth Marchnata gyda’r Lolfa.
Cwis Pwyllgor Apêl Tyddewi
Chwefror 17, 2012 gan golygydd
Cynhaliwyd cwis dan arweiniad Dewi Huw Owen, Cadeirydd Pwyllgor Apêl Tyddewi, yng Nghaffi Oriel y Parc, Tyddewi ar y 14eg o Ionawr eleni er mwyn codi arian at Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro, 2013.
Cwis cyhoeddus a fyddai’n addas ar gyfer cymuned leol Penrhyn Dewi ac aelodau o’r Clonc Mawr, grŵp sgwrsio a cherdded Cymraeg i ddysgwyr o bob lefel yn Sir Benfro ydoedd. Trefnydd y Clonc Mawr yw Dewi Rhys-Jones, Tiwtor Drefnydd Cymraeg i Oedolion yn Sir Benfro gyda Chanolfan Cymraeg i Oedolion De-Orllewin Cymru.
Meddai Huw, ‘Croesawyd siaradwyr Cymraeg o bob oedran ac o bob lefel i’r cwis, daeth a siaradwyr iaith gyntaf a dysgwyr ynghyd yn y Penrhyn, a chredaf i bawb gael hwyl yn ateb fy nghwestiynau amrywiol, ar Sir Benfro, chwaraeon, hanes, paentio a chelfyddyd gain, ar ffilm a theledu, a llawer mwy. Roedd ganddynt hefyd ddiddordeb mawr yn y cylchgrawn bywiog a elwid Tu Chwith, ac roedd llawer yn awyddus i’w ddarllen, i’w astudio, ac i’w fwynhau.’
Llwyddwyd i godi dros £100 yn ystod y noson i’r Urdd a bu i dri enillydd lwcus y cwis dderbyn tanysgrifiad blwyddyn i Tu Chwith. Yn ogystal, gwerthwyd wyth copi o’r cylchgrawn ar y noson.
Dymuna Tu Chwith ddiolch o galon i Huw am ei waith caled ar ein rhan.
Argraffiadau dwy o Deffro’r Gwanwyn
Chwefror 3, 2012 gan golygydd
Manon Wynn Davies ac Angharad Thomas sy’n adolygu Deffro’r Gwanwyn, prosiect diweddaraf y Theatr Genedlaethol.
Gynhyrchwyr cwmnïau annibynnol S4C, talwch sylw a chymerwch gyngor gan y Theatr Genedlaethol er mwyn dysgu beth yw safon. Wedi i sawl rhaglen wael gael ei darlledu gan S4C yn ddiweddar, ac rydw i’n prysuro i ddweud bod lle i ganmol ambell gyfres yn fawr, mae’n braf gwybod bod lle o hyd i droi at y theatr yng Nghymru os am adloniant o’r radd flaenaf.
Deffro’r Gwanwyn oedd prosiect diweddaraf y Theatr Genedlaethol, a bu ar daith yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr 2011. Bu’r sioe ar daith unwaith yn barod, rhwng mis Mawrth a mis Ebrill 2011, ac yn dilyn ymateb hynod galonogol gyda neuaddau dan eu sang, roedd galw am i’r sioe ddychwelyd. Sioe gerdd roc yw hon â chast o dri ar ddeg, sy’n addasiad o ddrama Almaeneg Frank Wedekind o’r un enw, Frühlings Erwachen, a gyfansoddwyd rhwng 1890 ac 1891. Troswyd y ddrama yn sioe gerdd Saesneg ac fe’i llwyfannwyd ar Broadway yn 2006, gyda Lea Michelle, un o wynebau cyfarwydd y rhaglen deledu boblogaidd Glee, yn chwarae rhan un o’r prif gymeriad