spacer spacer spacer . spacer spacer
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
spacer
spacer Ymgyrchoedd spacer
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Dyfodol Digidol
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 
spacer
spacer Adrannau spacer
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Hanner Cant
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 
spacer
spacer Y Wefan Hon spacer
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 
spacer
spacer

S4Craffu - grwp newydd i fonitro teledu Cymru

spacer Fe fydd rhagor o graffu ar y berthynas rhwng S4C a'r BBC yn dilyn y cyhoeddiad heddiw (Dydd Mawrth, Ebrill 10fed) bod cynghrair newydd yn cael ei ffurfio gan undebau a mudiadau iaith.

Daeth y grwp i fodolaeth yn sgil y bartneriaeth ymgyrchu a ffurfiwyd yn ystod y frwydr yn erbyn y toriadau i gyllideb S4C. Bwriad y grwp newydd yw i barhau i amddiffyn S4C a'i hannibyniaeth yn ogystal â goruchwylio safon y diwydiant teledu yng Nghymru. Mae aelodau y grwp yn cynnwys yr undeb BECTU, Undeb yr Ysgrifenwyr a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Fe ddywedodd Madoc Roberts o'r undeb BECTU: "Mae'r grwp newydd hwn yn gyfle i gadw llygaid barcud ar safon y diwydiant teledu yng Nghymru ac i graffu a sgriwtineiddio y berthynas rhwng S4C a'r BBC. Menter gadarnhaol yw hon, gyda'r bwriad o sicrhau fod S4C yn cynnig y ddarpariaeth gorau posibl i'w gwylwyr. Bydd y grwp yn galluogi unrhyw un sydd yn pryderu am ddyfodol darlledu yng Nghymru i godi unrhyw bryder sydd ganddynt."

Mae S4C yn wynebu toriad o dros nawdeg y cant i'w grant oddi wrth Lywodraeth Prydain, ac mae BBC Cymru yn dioddef oherwydd toriadau i wasanaethau Cymreig sy'n golygu bod 120 o swyddi mewn perygl o gael eu colli yng Nghymru yn y gorfforaeth. Ychwanegodd Madoc Roberts:"Fe wnaeth y Llywodraeth Prydain addo na fyddai'r BBC yn traflyncu S4C ac na fyddai'r berthynas rhwng y ddau ddarlledwr yn gwneud niwed i safon cynhyrchu yng Nghymru. Mae'r ddau ddarlledwr yn wynebu toriadau mawr felly rydym yn awyddus iawn i sicrhau nad yw hyn yn cael effaith negyddol ar safon y cynyrchiadau."

Llynedd fe wnaeth S4C dderbyn cytundeb oedd yn golygu mai'r BBC fyddai prif ffynhonnell ariannol y sianel.

Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod pryderon am y sianel o hyd: "Drwy ein hymgyrch llynedd fe wnaethom sicrhau fod rhyw fath o ddyfodol i'r sianel ond mae ei dyfodol yn ansicr o hyd. Cyfaddawd yn unig a gafwyd ar gyfer S4C felly mae'r gwaith yn parhau er mwyn sicrhau fod S4C yn parhau i gyfrannu at ddiwylliant llewyrchus a chreadigol darlledu."

10 2012 | Mwy...

 

Diwrnod Cyntaf Comisiynydd y Gymraeg

spacer Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dymuno'n dda i Meri Huws wrth iddi gychwyn ei swydd newydd fel y Comisiynydd cyntaf dros y Gymraeg.

Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Rydym yn dymuno yn dda i Meri Huws yn ei swydd. Gobeithiwn y bydd yn cymryd y cyfle i wneud y newidiadau sylweddol sydd angen er lles y Gymraeg. Gyda chonsensws traws-bleidiol ac ymysg cymdeithas sifil dros sefydlu'r swydd, mae gyda hi gyfle euraidd i ddechrau o'r newydd a sicrhau fod y sytem newydd hon yn blaenoriaethu pobl.

"Er bod nifer o wendidau yn y gyfundrefn a sefydlir yn y Mesur, gydag ewyllys da ac ymroddiad clir gan y Comisiynydd a'r Llywodraeth gallan nhw wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Gwahaniaeth a fydd yn galluogi pobl i ddefnyddio mwy o'r Gymraeg o ddydd i ddydd. Dylem weld gwelliannau sylweddol i wasanaethau ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn ogystal ag eraill megis dysgwyr a rhieni gyda phlant mewn addysg Gymraeg.

"Rydym yn disgwyl i'r Comisiynydd fod yn llais annibynnol dros y Gymraeg ac i roi buddiannau pobl Cymru yn gyntaf, yn hytrach na dilyn tueddiad yr hen Fwrdd yr Iaith, asiantaeth o'r Llywodraeth oedd yn canolbwyntio ar gyfaddawdu â busnesau a sefydliadau mawrion.

"Gobeithiwn y bydd y Comisiynydd yn sicrhau hawliau i bobl Cymru i wasanaethau Cymraeg o safon drwy osod dyletswyddau clir ac uchelgeisiol ar gyrff a chwmnïau. Mae hefyd angen iddi daclo'r camwahaniaethu yn erbyn siaradwyr Cymraeg yn y gweithle, trwy sicrhau hawliau pobl i weithio yn Gymraeg. Gobeithiwn y gallwn droi sefydliadau Cymru yn ddwyieithog yng ngwir ystyr y gair lle mae defnydd sylweddol o'r Gymraeg yn fewnol; mae hwn yn faes nad yw'r Cynulliad na'r Llywodraeth yn dangos arweiniad ar hyn o bryd."

Gwefan y Comisiynydd

2 Ebrill 2012 |

 

Trefn gwrthwynebu cau Ysgol y Parc

Y drefn weithredu ynglyn a chyflwyno'n gwrthwynebiadau i gynnig Cyngor Gwynedd i gau Ysgol y Parc yn 2013.

spacer Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi rhybudd statudol i gau Ysgol y Parc ger Bala. Bydd unrhyw wrthwynebiad i gau yr ysgol yn golygu trosglwyddo'r mater i'r Gweinidog addysg, Leighton Andrews i'w ystyried. Byddai ddisgyblion ac athrawon yr ysgol a holl drigolion y Parc yn ddiolchgar iawn petai chi'n gallu anfon llythyr yn gwrthwynebu cau yr ysgol. manylion isod:

  • Mae'n rhaid i bob gwrthwynebiad gael ei dderbyn yng Nghaernarfon cyn y 5ed o Ebrill
  • Rhaid i bob gwrthwynebiad gael ei gyfeirio at: Dewi R Jones, Pennaeth Addysg, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH.
  • Rhaid i'r gwrthwynebiadau gael eu cyflwyno trwy lythyr (Ni fydd y Cyngor yn derbyn e-bost)

Cadwch gopi o bob gohebiaeth a anfonir er mwyn inni fedru gwirio fod popeth a anfonir i Gaernarfon yn cael ei drosglwyddo i sylw Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru. Byddai'n dda hefyd i chi gyflwyno llun-gopi o'ch llythyr i Rhian Yn Ysgol y Parc (cyfeiriad isod) neu swyddogion y Pwyllgor Amddiffyn.

Byddwn yn cyflwyno nifer o'r llythyrau gwrthwynebu gyda'u gilydd mewn un pecyn i'r Swyddogion Addysg yng Nghaernarfon ar ddydd Llun 3ydd Ebrill. Os cytunwch i hyn gallwch gyflwyno eich llythyr gwreiddiol (a'r llun-gopi ar wahan) trwy y blwch postio arbennig a ddarperir i'r pwrpas yn yr Ysgol. Ysgol y Parc, Parc, Y Bala, LL23 7YW. Bydd angen gwneud hyn erbyn dydd Gwener 30ain o Fawrth.

Gofynwn i chi hefyd anfon e-bost o'r llythyr at: Leighton Andrews - leighton.andrews@wales.gov.uk

Dywedodd Leanne Wood wrth gael ei hethol yn arweinydd ar Blaid Cymru mai ein cymunedau oedd un o'r prif bethau yr oedd hi a Phlaid Cymru am frwydro drostynt. Mae bygythiad i gau unrhyw ysgol yn fygythiad real i'r gymuned felly danfonwch neges at Leanne Wood hefyd: leanne.wood@wales.gov.uk

21 Mawrth 2012 |

 

Pwysa yma i ddarllen mwy o newyddion...

Fideo: Tynged yr Iaith 2

20 Chwefror 2012 |

 

Pwysa yma i weld mwy o fideos...

spacer
spacer Newyddion spacer
S4Craffu - grwp newydd i fonitro teledu Cymru
10 , 2012
Diwrnod Cyntaf Comisiynydd y Gymraeg
2 Ebrill, 2012
Trefn gwrthwynebu cau Ysgol y Parc
21 Mawrth, 2012
Mwy o newyddion...
spacer
spacer Digwyddiadau spacer
Penwythnos Sianel 62 - Cyfarfod Cyngor
28 Ebrill, 2012
Defnyddia Dy Dafod: Cwrs Cymraeg Amgen - Blaenau Ffestiniog/Trawsfynydd
11 Mai, 2012
Gwyl Hanner Cant - Pumdeg o fandiau, dwy noson, un parti mawr
13 Gorffennaf, 2012
Dathlu 50 mlynedd o'n mudiad - Cyfarfod Cyffredinol Arbennig
15 Medi, 2012
Defnyddia Dy Dafod: Cwrs Cymraeg Amgen - Tresaith
19 Hydref, 2012
Rhagor...
spacer
spacer
nôl i'r brig
spacer
gipoco.com is neither affiliated with the authors of this page nor responsible for its contents. This is a safe-cache copy of the original web site.