|
Ymgyrchoedd
|
|
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
|
Deddf Iaith Newydd
|
Cymraeg yn Hanfodol
|
Deddf Eiddo
|
Addysg
|
Dyfodol Digidol
|
Gwreiddiwch yn y Gymuned
|
|
|
Adloniant
|
Blog y Cadeirydd
|
Codi Arian
|
Cyfansoddiad
|
Cyfarfod Cyffredinol
|
Gwybodaeth
|
Dolennau
|
Dy Ardal Di
|
Eisteddfodau
|
Fideo a Sain
|
Hanes
|
Hanner Cant
|
Maniffesto
|
Nwyddau
|
Rhyngwladol
|
Y Senedd
|
Y Tafod
|
|
Pages in English
|
|
|
Defnyddio'r Wefan |
|
Movable Type 4.24-en |
Ffrwd RDF (XML) |
|
|
|
|
S4Craffu - grwp newydd i fonitro teledu Cymru
Fe fydd rhagor o graffu ar y berthynas rhwng S4C a'r BBC yn dilyn y cyhoeddiad heddiw (Dydd Mawrth, Ebrill 10fed) bod cynghrair newydd yn cael ei ffurfio gan undebau a mudiadau iaith.
Daeth y grwp i fodolaeth yn sgil y bartneriaeth ymgyrchu a ffurfiwyd yn ystod y frwydr yn erbyn y toriadau i gyllideb S4C. Bwriad y grwp newydd yw i barhau i amddiffyn S4C a'i hannibyniaeth yn ogystal รข goruchwylio safon y diwydiant teledu yng Nghymru. Mae aelodau y grwp yn cynnwys yr undeb BECTU, Undeb yr Ysgrifenwyr a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Fe ddywedodd Madoc Roberts o'r undeb BECTU: "Mae'r grwp newydd hwn yn gyfle i gadw llygaid barcud ar safon y diwydiant teledu yng Nghymru ac i graffu a sgriwtineiddio y berthynas rhwng S4C a'r BBC. Menter gadarnhaol yw hon, gyda'r bwriad o sicrhau fod S4C yn cynnig y ddarpariaeth gorau posibl i'w gwylwyr. Bydd y grwp yn galluogi unrhyw un sydd yn pryderu am ddyfodol darlledu yng Nghymru i godi unrhyw bryder sydd ganddynt."
Mae S4C yn wynebu toriad o dros nawdeg y cant i'w grant oddi wrth Lywodraeth Prydain, ac mae BBC Cymru yn dioddef oherwydd toriadau i wasanaethau Cymreig sy'n golygu bod 120 o swyddi mewn perygl o gael eu colli yng Nghymru yn y gorfforaeth. Ychwanegodd Madoc Roberts:"Fe wnaeth y Llywodraeth Prydain addo na fyddai'r BBC yn traflyncu S4C ac na fyddai'r berthynas rhwng y ddau ddarlledwr yn gwneud niwed i safon cynhyrchu yng Nghymru. Mae'r ddau ddarlledwr yn wynebu toriadau mawr felly rydym yn awyddus iawn i sicrhau nad yw hyn yn cael effaith negyddol ar safon y cynyrchiadau."
Llynedd fe wnaeth S4C dderbyn cytundeb oedd yn golygu mai'r BBC fyddai prif ffynhonnell ariannol y sianel.
Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod pryderon am y sianel o hyd: "Drwy ein hymgyrch llynedd fe wnaethom sicrhau fod rhyw fath o ddyfodol i'r sianel ond mae ei dyfodol yn ansicr o hyd. Cyfaddawd yn unig a gafwyd ar gyfer S4C felly mae'r gwaith yn parhau er mwyn sicrhau fod S4C yn parhau i gyfrannu at ddiwylliant llewyrchus a chreadigol darlledu."
Mae Adran Ddiwylliant Llywodraeth Prydain yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ar newidiadau i strwythur a chylch gorwchyl y ddau ddarledwr. Fe ddywedodd Roger Williams ar ran Undeb yr Ysgrifenwyr:
"Yn ystod yr holl drafodaethau roedd Llywodraeth Prydain a'r BBC yn barod iawn i argyhoeddi pawb nad oedd bygythiad i annibyniaeth S4C felly yn ystod y cyfnod ymgynghori ar ddyfodol S4C, byddwn yn weithredol wrth sicrhau fod y llywodraeth yn cadw ar yr addewidion y gwnaeth ynglyn รข'r berthynas rhwng y BBC ac S4C ac na fydd y berthynas honno yn amharu ar allu S4C i weithredu yn annibynnol."
Fe gynhelir cyfarfod cyntaf y grwp craffu newydd - S4Craffu - ar Ebrill 18.
Mwy yn yr un categori(au):
Newyddion
.
|
|
Newyddion
|
|
S4Craffu - grwp newydd i fonitro teledu Cymru
10 , 2012
|
Diwrnod Cyntaf Comisiynydd y Gymraeg
2 Ebrill, 2012
|
Trefn gwrthwynebu cau Ysgol y Parc
21 Mawrth, 2012
|
Mwy o newyddion...
|
|
|
Digwyddiadau
|
|
Penwythnos Sianel 62 - Cyfarfod Cyngor
28 Ebrill, 2012
|
Defnyddia Dy Dafod: Cwrs Cymraeg Amgen - Blaenau Ffestiniog/Trawsfynydd
11 Mai, 2012
|
Gwyl Hanner Cant - Pumdeg o fandiau, dwy noson, un parti mawr
13 Gorffennaf, 2012
|
Dathlu 50 mlynedd o'n mudiad - Cyfarfod Cyffredinol Arbennig
15 Medi, 2012
|
Defnyddia Dy Dafod: Cwrs Cymraeg Amgen - Tresaith
19 Hydref, 2012
|
Rhagor...
|
|
|