FIDEO: Datblygu – Maes E

Cofnodwyd ar 11 Ebrill 2012 gan Carl Morris

Maes E.

Wrth gwrs mae lot o bobol Y Twll yn gyfarwydd ar y cân ond wyt ti wedi gweld y fideo?

Cafodd y cân ei rhyddhau yn 1992 yn wreiddiol ar finyl 7″ ac wedyn ar drydydd albwm Datblygu, Libertino.

Yn diweddar rydyn ni wedi bod yn cwestiynu retromania ond dw i ddim yn siŵr os ydy e’n cyfrif yn union fel retromania os wyt ti erioed wedi ei gwylio o’r blaen. Dyma beth sydd yn ddiddorol am lot o fideos a phethau pop Cymraeg / SRG sydd ddim wedi cyrraedd YouTube neu y we eto (diolch i Victoria Morgan am rannu’r fideo heno).

Ffaith: mae lot o gyfeiriadau diwylliannol yn y cân ond mae’r un mwyaf cryptaidd am ‘cig’ (3:35) wedi dod, o bosib, o’r ffaith bod David R. Edwards yn llysieuwr.

Rhagor o ddolenni Datblygu30

Cofnodwyd yn Cerddoriaeth | Tagiwyd Datblygu, fideo, Retromania, SRG | 2 Sylw

30 mlynedd o Datblygu

Cofnodwyd ar 6 Ebrill 2012 gan Carl Morris

spacer

Bore yma gwnes i weld yr arddangosfa Datblygu yn Waffle, Caerdydd (63 Heol Clive, Treganna – ddim yn bell o Dafarn y Diwc).

Mae’r perchennog caffi Waffle, Victoria Morgan, wedi bod yn casglu eitemau Datblygu ac mae hi’n croesawi unrhyw fenthyciadau er mwyn ehangu’r casgliad. Wedi dweud hynny, mae’r amrywiaeth o luniau, cloriau, gohebiaeth ac adolygiadau yn wych eisoes, gan fod Victoria yn chwaer i Patricia Morgan o’r band.

Fel mae’n digwydd, eleni mae’r band dylanwadol yn dathlu 30 mlynedd ers dechrau fel deuawd o Aberteifi – David R. Edwards a T. Wyn Davies. Roedd adolygiadau Y Cymro a Sgrech yn 1982 o’r casét cyntaf Amheuon Corfforol yn ffafriol iawn. Dyma’r cân Problem Yw Bywyd o’r casét:

Ymunodd Patricia Morgan y band yn 1985 ac wedyn wnaeth y band tri albwm ardderchog, pum sesiwn i John Peel ac ambell i fideo i Criw Byw a Fideo9 ar S4C gan gynnwys Santa a Barbara:

A mwy… Ar hyn o bryd mae bwcibo cyf, cwmni y cynhyrchydd Owain Llŷr, wrthi’n creu Prosiect Datblygu (bwcibo 005), sef ffilm ddogfen annibynnol Cymraeg i ddathlu trideg mlynedd o Datblygu. Bydd premiere yn Theatr Mwldan, Aberteifi tua mis Medi 2012.

Tra bod i’n siarad am ffilm dyma clip o Llwch ar y Sgrin am sesiwn Datblygu yn 2008 pan wnaethon nhw recordio’r sengl olaf Can y Mynach Modern (diolch i Pete Telfer a’r Wladfa Newydd, sydd wedi sgwennu erthygl newydd am y dathliad).

Am ragor o wybodaeth am y dathliadau cer i Datblygu30.

Mae Nic Dafis yn rhedeg gwefan (an)swyddogol ynglŷn â phopeth Datblygu.

DIWEDDARIAD: mae Lowri Haf Cooke wedi sgennu lot mwy am yr arddangosfa gyda lluniau hefyd, mmm.

Cofnodwyd yn Cerddoriaeth, Llefydd | Tagiwyd Aberteifi, Caerdydd, Datblygu, David R. Edwards, John Peel, Patricia Morgan, Retromania, T. Wyn Davies | Gadael sylw

Cyrk gan Cate Le Bon

Cofnodwyd ar 4 Ebrill 2012 gan Carl Morris

Dyma tiwn gan Cate Le Bon o’i albwm Cyrk. Mae hi wedi bod yn gweithio gyda’r cynhyrchydd Kris ‘Sir Doufous Styles’ Jenkins ac mae’r albwm hefyd yn cynnwys mewnbwn gan Siôn Glyn o’r Niwl, aelodau Racehorses a Gruff Rhys. Mae’r albwm yn dod mas ar y 30ain mis yma ar label OVNI, sef label Gruff.

O ran y fideo dw i’n blogio gwaith fideo Casey + Ewan yn eithaf aml yma. A pham ddim. Maen nhw wedi cynhyrchu fideo i Cate o’r blaen ac mae Casey wedi dylunio clawr albwm i Gruff. (Rhyw ddydd bydd rhywun yn creu siart cynhwysfawr o’r holl gydweithrediadau yma.)

Cofnodwyd yn Cerddoriaeth | Tagiwyd Casey Raymond, Cate Le Bon, Ewan Jones Morris | Gadael sylw

Recordiau’r Cob: atgofion personol

Cofnodwyd ar 19 Mawrth 2012 gan Elidir Jones

spacer

Pan ar wyliau ym Mharis yn y 90au cynnar, fe dderbyniais i record feinyl fel anrheg am y tro cynta: y gân o ddechrau’r Teenage Mutant Ninja (neu Hero) Turtles, mewn Ffrangeg. Dim y fath o beth fyddai’n ysbrydoli llawer o gariad at gerddoriaeth dros y blynyddoedd i ddod.

Ac felly y bu. Oni bai am The Smurfs Go Pop, Bad gan Michael Jackson, The Best Rock Album In The World – Ever! a chasgliad o soundtracks (y gorau o bell ffordd: Ghostbusters 2), doedd cerddoriaeth ddim wedi gwneud llawer o argraff arna i tan yn gymharol hwyr yn fy arddegau. Bryd hynny, yn bymtheg oed, fe es i ar brofiad gwaith i Recordiau’r Cob ym Mangor.

Wnes i ddewis mynd yno achos fy mod i’n hoff iawn o ffilmiau, a roedden nhw’n gwerthu amrywiaeth dda o fideos (a llond llaw o DVDs, oedd yn newydd iawn ar y pryd). Esiampl dda o golli’r pwynt yn llwyr. Roeddwn i allan o fy nyfnder. Achos eu bod nhw’n griw ffeind, gefais i’r cyfle i chwarae fy newis i o gerddoriaeth dros y siop o dro i dro. Ar ôl wastio deuddydd yn chwarae CDs oeddwn i’n berchen arnyn nhw’n barod, wnes i ddewis rhoi albym gan Blue Öyster Cult ymlaen – roeddwn i’n ymwybodol ohonyn nhw oherwydd bod Don’t Fear The Reaper wedi ei gynnwys ar The Best Rock Album In The World – Ever! (yn haeddiannol, dwi’n meddwl). Wrth i’r record ddechrau, dechreuodd Chris, un o staff y siop, sôn yn frwdfrydig amdanyn nhw, eu halbymau, eu cryfderon a gwendidau fel band byw, ac yn y blaen. Am y tro cynta, roeddwn i’n ymwybodol o gerddoriaeth fel rywbeth pwysig, a dim jyst fel rywbeth i’w roi ymlaen yn y cefndir ar siwrne gar. Ar ddiwedd yr wythnos, roeddwn i wedi fy newid am byth.

Doeddwn i dal ddim yn ymwybodol iawn o fandiau da tan rhai wythnosau’n ddiweddarach, pan ges i fy nghyflwyno i fandiau alternatif y 90au cynnar fel Nirvana a’r Smashing Pumpkins gan ffrind tra’n gwersylla ym Meddgelert. Yn ôl ym Mangor, i Recordiau’r Cob es i’n syth er mwyn cael gafael ar eu stwff. Dwi’n cofio prynu Mellon Collie And The Infinite Sadness gan y Smashing Pumpkins a Chocolate Starfish And The Hot-Dog Flavoured Water gan Limp Bizkit ar yr un dydd, a dod i’r penderfyniad ar ôl gwrando arnyn nhw bod un yn wych, a’r llall yn rybish pur. Wna i adael i chi ddyfalu p’run oedd p’run. O’r foment yna, doeddwn i ddim isio gwrando ar gerddoriaeth rybish bellach, a dechreuais i wario lot, lot gormod o bres yn Recordiau’r Cob bob Dydd Sadwrn. Fel canlyniad uniongyrchol i hyn, wnes i bigo gitâr bâs i fyny, a chwarae mewn amrywiaeth o fandiau ysgol, cyn cyd-ffurfio’r band Plant Duw yn 2004.

Ychydig o flynyddoedd wedyn, wnes i ddewis astudio yn Aberystwyth (am ryw reswm), a daeth Andy’s (ac, yn ddiweddarach, Backbeat) Records yn bwysig iawn i mi yn ystod fy nghyfnod yno. Roedd yr un peth yn wir am Spiller’s Records pan wnes i raddau pellach yng Nghaerdydd. Ond doedd yr un siop recordiau’n gallu cyffwrdd Recordiau’r Cob (er fy mod i erbyn hyn yn deall yr hoffter mawr tuag at Spiller’s – mae’n drysor o siop, gyda staff cyfeillgar a hynod wybodus, yn ganolog i’r sîn byw yng Nghaerdydd, a dylai gael ei gefnogi gan bawb yn y brifddinas). Ar bob trip adre i Fangor, roeddwn i’n gwneud yn siwr fy mod i’n gwario ffortiwn yn Cob, yn ogystal â chael rhywbeth i’w fwyta o’r Tŷ Pizza ym Mangor Uchaf, os oeddwn i’n llwglyd ai peidio.

Fis Medi diwethaf, yn gwynebu dyfodol ansicr, symudais i’n ôl i Fangor, ac ailddarganfod pleserau Cob o wythnos i wythnos. Yna, tua’r Nadolig, dechreuodd y sïon bod y siop am gau. Wrth i’r sibrydion grisialu i mewn i wirionedd, do’n i ddim cweit yn gallu derbyn y peth. Wir yr, wnes i dreulio bore Dolig 2011 yn meddwl yn ddifrifol am brynu’r siop, ac am ffyrdd o wneud i’r busnes weithio yn yr oes ddigidol. Yn amlwg, wnes i ddim, oherwydd diogrwydd.

Dros fisoedd cynta 2012, es i ddim i mewn i Cob. Doeddwn i ddim isio gweld y lle efo llai o stoc, sticeri sêl dros y ffenestri, yn gysgod o sut yr oedd o. Gan fy mod i ddim ym Mangor ar Fawrth 24, diwrnod ola’r siop, penderfynais i fynd yno heddiw am y tro ola (doedd y ffaith bod popeth yn hanner pris ddim yn brifo). Gerddais i allan, dau fag yn llawn feinyls, CDs a DVDs, yn brwydro’n wrol erbyn yr awydd i grio.

A rwan, tra bydda i ym Mangor, dwi’n gwynebu dyfodol o gael fy ngherddoriaeth o iTunes, Amazon, HMV (bellach yn gwerthu mwy o gemau cyfrifiadur na CDs), neu drwy archebu o siopau eraill. Mae lot o bobol yn gwrthwynebu cerddoriaeth ddigidol oherwydd eu bod yn hoff o’r record fel gwrthrych corfforol. Dwi’n sicr yn deall hyn. Mae casgliad recordiau yn ddarn o gelfyddyd, yn unigryw i chi, sy’n dweud gymaint am eich personoliaeth. Os ydw i’n ymweld â chartref ffrind, dwi’n anelu’n syth am y casgliad recordiau, neu ffilmiau, neu lyfrau, er mwyn cael gwybod mwy amdanyn nhw. Pryd oedd y tro diwetha i rywun ofyn am gael gweld y caneuon yn eich cyfri iTunes, neu’r e-lyfrau wedi eu llwytho ar eich Kindle?

Ond i fi, y peth gorau am fynd i siop recordiau ydi’r broses o siopa. Dywedwch eich bod chi’n mynd i mewn achos eich bod chi ar ôl record gan Queen. I ffwrdd a chi at y bandiau sy’n dechrau efo Q, chwilio am eich record, dod ar draws un gan Queens Of The Stone Age, cofio eu bod nhw’n fand da, taflu eich llygadau i’r dde, gweld record gan y Ramones, neu Rage Against The Machine, neu Radiohead, a cherdded allan o’r siop, tri chwarter awr yn ddiweddarach, efo trysorfa o gerddoriaeth. Cymharwch hwnna i’r broses o siopa ar iTunes: teipio ‘Queen’ i mewn, ffeindio eich albym (neu, yn fwy aml na pheidio’r dyddiau yma, eich un gân), logio i ffwrdd. Dim proses o ddarganfod, dim gwefr wrth ddod o hyd i rywbeth newydd. Dim hwyl. Cyn i mi gerdded i mewn i Cob heddiw, doedd gen i ddim syniad be fyddai yn fy mag(iau) yn cerdded allan. All prynu MP3s gynnig yr un profiad?

Ar y ffordd adre o fy nhrip ola i Recordiau’r Cob, wnes i basio criw o fyfyrwyr yn ymgyrchu mewn etholiad coleg (rhywbeth arall sy’n ennyn dim byd ond casineb pur gen i). Fe welodd un ohonyn nhw fy magiau melyn llachar, troi at ffrind, a dweud:

“I thought Cob Records had closed already.”

Mae Dydd Sadwrn, Mawrth 24, yn ddiwrnod pwysig yn hanes y ddinas, pan fydd un o siopau mwyaf hanesyddol Bangor yn cau am byth. A doedd y boi yma ddim yn gwybod amdano fo. Dwi’n amau ei fod o wedi camu drwy ddrysau’r lle ers oes pys, os ydi o wedi gwneud erioed. Pam fysa fo’n gwneud, pan fedrith o lawrlwytho holl ouvre Jessie J neu Snow Patrol, yng nghysur ei ystafell, yn ei drôns? Tydi technoleg yn wych?

Rai misoedd yn ôl, ddeues i ar draws dyfyniad gan yr awdur Nick Hornby, sy’n crynhoi fy nheimladau ar y mater yn reit dda:

“Yes, yes, I know. It’s easier to download music and probably cheaper. But what’s playing on your favourite download store when you walk into it? Nothing, that’s what. Who are you going to meet in there? Nobody. Where are the notice boards offering flatshares and vacant slots in bands destined for superstardom? Who’s going to tell you to stop listening to that and start listening to this? Go ahead and save yourself a couple of quid. The saving will cost you a career, a set of cool friends, musical taste and, eventually, your soul. Record stores can’t save your life, but they can give you a better one.”

Mor wir. Y peth arall pwysig am Cob, wrth gwrs, oedd ei fod yn gwbwl ganolog i sîn gerddoriaeth Gymraeg y gogledd. Gwenais heddiw wrth weld ein halbym diwethaf ar werth am bris rhad (ia wir, tan Fawrth 24, gallech chi fod yn berchen ar y record wnaeth cylchgrawn Y Selar alw’n “seithfed albym Cymraeg gorau’r flwyddyn” am £6 yn unig – bargen!). Gobeithio wir fydd siopau Cymraeg yr ardal, fel Palas Print, yn gwneud eu gorau glas i stocio pob un record Gymraeg newydd o hyn ymlaen. Dwi ddim yn gweld llawer o dystiolaeth eu bod yn gwneud ar y funud, ond mae’n siwr eich bod chi’n gallu dweud o dôn hapus yr erthygl yma fy mod i’n un sydd wastad yn byw mewn gobaith.

Dwi’n gwbwl sicr fyddai fy mand i ddim yn bodoli heddiw heb Recordiau’r Cob, ac yn siwr bod yr un peth yn wir am nifer o fandiau â’u gwreiddiau ym Mangor. Faint o fandiau posib y dyfodol fydd ddim yn bodoli oherwydd bod Cob yn gorfod cau ei ddrysau? Faint o filoedd o blant Bangor fydd fel fi, yn anymwybodol o wir ergyd cerddoriaeth dda, a heb unrhywle i’w haddysgu nhw? Pa reswm sydd gan unrhywun i fynd i siopa ym Mangor rwan, beth bynnag?

Os ydi’r Tŷ Pizza’n cau, dwi’n symud.

Cofnodwyd yn Cerddoriaeth | Tagiwyd Bangor, finyl, Nick Hornby, recordiau, Recordiau'r Cob, siopau | Gadael sylw

Stwnsho’r Senedd: The Parliamentalist

Cofnodwyd ar 7 Mawrth 2012 gan Heledd Melangell Williams

Yr wyf wedi darganfod artist anhygoel o’r enw The Parliamentalist gan y ferch dwi’n rhannu tŷ efo. Gabber/breakcore yw’r genre hynod y cerddor yma, a mae ei ddau albym ar gael i lawrlwytho am ddim!

Dychmygwch yr ateb cerddorol i wybun ar chwim a cewch rhyw syniad o egni eithafol cerddoriaeth gabber. Gydda curiadau cyflym gwyllt y cerddoriaeth mae’n gwneud thrash, hardstyle a’r holl genres ‘macho’ yma swnio fel hwyngerddi!

Oeddwn arfer meddwl fod gabber a techno braidd yn gyntefig a diflas… Ond ar ol rhoi siawns go iawn iddo… wedi fy niddori gan samplau doniol The Parliamentalist yr wyf wedi dod i’w werthfawrogi llawer mwy. Mae gabber yn swnio fel ‘cerddoriaeth cur pen’ i ddechrau fel dyweddod fy mrawd, ond wir i chi wrth wrando dipyn mae swn gabber yn tyfu arnoch chi!

Gwrandewch, ond gofal os nad ydych yn hoff o regi nag iaith aflednais ac anweddus! Mae dylanwad a hiwmor Cassetteboy yn amlwg yn ei gerddoriaeth. Mwynhewch!

Cofnodwyd yn Cerddoriaeth | Tagiwyd ailgymysgiadau, breakcore, gabber, samplau, samplo, The Parliamentalist | Gadael sylw

Breichiau Hir – Peil o Esgyrn

Cofnodwyd ar 7 Mawrth 2012 gan Carl Morris

Dyma’r fideo i’r sengl cyntaf Breichiau Hir. (Just Like Frank oedd eu enw gynt.)

Rhybudd: mae thema arswyd.

Oes trend ymysg bandiau ifanc Cymraeg i gynhyrchu fideos o samplau hen ffilm? Dw i’n croesawi’r trend ar y cyfan. Mae’n rhatach, mae digon o stwff yn yr archifau ac mae’n gallu bod yn creadigol. (Gweler hefyd: fideo Sen Segur).

Cofnodwyd yn Cerddoriaeth | Tagiwyd Breichiau Hir, Retromania, samplau, samplo, Sen Segur | 1 Sylw

Cyfweliad Keith Morris: lluniau siopau Aberystwyth

Cofnodwyd ar 2 Mawrth 2012 gan Carl Morris

spacer

Ar ôl i ni weld lluniau newydd o siopau Aberystwyth gan y ffotograffydd Keith Morris roedd rhaid i ni ddysgu mwy am y prosiect, dyma atebion Keith i gwestiynau trwy e-bost.

Rwyt ti newydd ddechrau prosiect sydd yn ysgogi’r meddwl ac yn teimlo fel rhywbeth ‘amserol’ yn yr hinsawdd bresennol, sef lluniau o bob siop yn Aberystwyth. Allet ti siarad mwy am dy ysbrydoliaeth ac amcanion tu ôl y prosiect?

ysbrydoliaeth – hmm…o’m i jyst am rhoid ‘marker’ lawr am syfyllfa presenol economi Aber cyn i’r siopau mawr fel Tesco a Marks+Spencer cyrraedd yn y dyfodol agos(-ish)…ac wedi’m synni fawr gan y nifer ar cryfder yr ymatebion bositif iawn i’r llunau (sydd just yn snapshots gyflym rili…)

Rwy’n gweld fy hunan fel (yn geiriau yr hanesyd Gwyn Alf Williams) ‘ a people’s remembrancer’…rhywun syn cofnodi’r pethe bach ‘pob dydd’ sy’n cael eu ddiystyried gan pobol….

Rwyt ti wedi byw yn Aberystwyth ers blynyddoedd. Ond beth wyt ti wedi dysgu am Aberystwyth ers dechrau’r prosiect?

wi’n brodor o’r dre…wedi byw yn yr un stryd erioed…..be dwi’n dysgu efallai bod gan pobl eu gwahanol  ’Aber’s’ yn eu pennau….ac yn cofio gwahanol pethau a phobl

spacer

Wyt ti erioed wedi cael sylwadau ar y strydoedd tra rwyt ti’n tynnu’r lluniau?

ydw…loads o weithiau!  dyna un o’r pethe wi’n hoffi am byw a gweithio yn fy milltir sgwar…mae pawb yn fy nabod fi….ac yn barod iawn i cynnig eu syniadau (a cwynion) i mi .

Wyt ti’n gyfarwydd ar y prosiectau siopau gwag yn llefydd fel Caerdydd a Llundain? Er enghraifft mae pobol o’r gymuned leol yn meddiannu siopau gwag (gyda chaniatâd fel arfer) i ddarparu defnydd amgen o’r lle. Beth yw dy farn am y prosiectau yma, os oes barn gyda ti o gwbl?

peth positif iawn……a mae pethe fel hyn yn digwydd yn barod yn Aber……ond un peth iw cofio yw y nifer fach o siopau sydd yn wag yn Aber a ddweud y gwir……dydi Aber ddim mewn crisis, eto… nid fel nifer fawr o trefi eraill lle mae canran lot uwch o siopau gwag, a rheinni’n wag am amser hir hefyd….

Gwnes i weld dy luniau ar y we. Fydd modd gweld arddangosfa rhywle? Beth yw’r ffordd ddelfrydol i weld dy luniau o siopau Aberystwyth?

Falle….on rili, y we yw’r ffordd gore i cael gwaith fel hyn lan yn gyflym, ac o flaen gynulleidfa byd-eang o fewn eiliadau…..ac i cael ymatebion a chyfraniadau gan pobl hefyd…….Wi’n ffan mawr o Facebook fel cyfrwng i dosbarthu a chyfathrebu ……

Pwy sy’n rhedeg Aberystwyth yn 2012?

ha…..neb……dyna’r gwendid…..

spacer

Mae rhagor o luniau o siopau Aberystwyth gan Keith Morris yma – mae cyfanswm o 365 llun ar hyn o bryd.

Lluniau: hawlfraint Keith Morris 2012

Cofnodwyd yn Celf, Llefydd | Tagiwyd Aberystwyth, ffotograffiaeth, Gwyn Alf Williams, Keith Morris, lluniau, siopau | 5 Sylw

Darluniau gan Huw Aaron + cerddi gan Aneirin Karadog

Cofnodwyd ar 20 Chwefror 2012 gan