Sianel 62: nos Sul yma

Cofnodwyd ar 17 Chwefror 2012 gan Y Twll

Mi fydd Sianel 62 yn darlledu ar sianel62.com 8PM nos Sul yma a phob nos Sul o hyn ymlaen. Rhagor o wybodaeth am Sianel 62

Mwy dan y categori Cyfryngau ar Y Twll

Cofnodwyd yn Cyfryngau, Teledu | Tagiwyd Cymdeithas yr Iaith | Gadael sylw

Gwerin yn canu yn y de-ddwyrain

Cofnodwyd ar 14 Chwefror 2012 gan Heledd Melangell Williams

Efa Supertramp

Tiwns am heddlu yn dod a spwylio’ch hwyl, am malu’ch teledu’n racs, am gariad ac am chwyldro. Am ddim ‘fyd, ‘Celf Nid Pres’ yng ngeiriau ei hunain! Cradaf ei bod yn bwriadu gigio y Gwanwyn yma. Clywais llawer o’r traciau Efa Supertramp yma pan fe wnaeth perfformio mewn sgwat yng Nghaerdydd, gig llawn egni ag angerdd, o du Efa Supertamp a’r cynulleidfa! Er nad ydi cerddoriaeth acwstig fy hoff genre yn bersonnol… rhaid i mi gyfaddau i mi fwynhau miri llawer o ganeuon ar yr albym yma. Yr wyf yn hoff o’r modd mae’r geiriau mor eglur a mae wir ystyr i ganeuon Efa. Gyda artistiaid fel Lady Gaga yn dominyddu tomfeddi’r radio prif ffrwd a’i nonsens ra ra blah blah blah ma’n dda clywed hogan sy’n siarad mymryn o sens! Mae sain meddal yr acwstig yn cyferbynnu’n dda efo pyncdod ei llais hefyd.

Clayton Blizzard a Cosmo

Dydw i ddim yn awdurdodes o gwbwl ar gerddoriaeth acwstig ond mi wn fod yna sin o gerddoriaeth acwstig radicalaidd gwefreiddiol yn ninas Caerdydd ar ol mynd i nosweithiau Folk Against Facism yn Gwdihw. Mae’r noson yma wedi chwalu fy rhagfarnau ynglyn a cerddoriaeth gwerin ac acwstig, yn enwedig ar ol gwrando ar Clayton Blizzard a Cosmo.

Jamie Bevan, Torri’r Cerffiw

Yn y cymoedd gallwn glywed fod canu gwerin gwahanol yn ffynu hefyd. Yn 2011 fe wnaeth Jamie Bevan, cyn aelod o’r Betti Galws, ryddhau albym Torri’r Cerffiw. Caneuon ynglyn a bywyd ym Merthyr Tudful a’i brofiad o weithredu yn erbyn y Ceidwadwyr a’u toriadau wrth falu swyddfa gyda aelod arall o Gymdeithas yr Iaith. Gweithred a arweinodd iddo cael ei garcharu. Dyma casgliad o ganeuon gwerin gwerth chweil gyda digon o hwyl a sbri! Mi fydd Jamie Bevan yn gigio yn y Gwanwyn hefyd gyda Twmffat, taith Tin Dweud Twndis a Dwi’n Dweud Twmffat.

Cofnodwyd yn Cerddoriaeth | Tagiwyd Betti Galws, Caerdydd, Clayton Blizzard, Cosmo, Efa Supertramp, Gwdihw, gwerin, Jamie Bevan | Gadael sylw

Boncyrs am Borgen

Cofnodwyd ar 8 Chwefror 2012 gan Lowri Haf Cooke

spacer

Oes modd dweud “Hej Hej” heb swnio’n llawen? Mae’n dipyn o her ceisio yngan y ffarwel Llychlynaidd hwnnw heb swnio fel cyflwynydd teledu plant sy newydd lyncu bocs o Smarties glas.

Ceisiwch, os fedrwch chi, ychwanegu dôs o ing a phinsiad o pathos – ynghyd â llygaid llô bach – wrth ddymuno “Hwyl Fawr” bach pruddglwyfus i Borgen (Senedd) – y ddrama wleidyddol o Ddenmarc a fu’n achubiaeth i gynulleidfa sylweddol  o wylwyr BBC Four ganol Gaeaf, ac a orffenodd ei chyfres o ddeg penod nos Sadwrn dwetha’.

Ffarwel felly i Birgitte Nyborg Christensen (Sidse Babett Knudsen), y Prif Weinidog perffaith o amherffaith gyda’i hangel o ŵr a loriodd pawb gyda’i benderfyniad yn y benod ola. “Hwyl” i’r sbinfeistr Machiavelliaidd (oes na deip arall o sbinfeistr?) Kasper Juul (Johan Philip Asbæk), a’i annallu i ddelio â thrallod ei blentyndod. A “Ta-Ra” hefyd i’w gyn-gariad Katrine Fønsmark (Birgitte Hjort Sørensen), y cyflwynydd newyddion brydferth fydde wrth ei bodd yn sicrhau cystal sgŵp ag un Woodward a Bernstein-arwyr y poster All The President’s Men ar wal ei chegin.

Dyma’r gyfres a oedd yn ddigon gwych i’m darbwyllo i ddiodde “buffer-io” niwsanslyd yr iPlayer wrth i mi ddal fyny bob dydd Sul â double-bill y noson cynt (ma’n rhaid i fi sortio’r Di-Wi, asap), ac a greodd genfigen ffordd-o-fyw cwbl afresymol ynof, nes y bu bron i mi wario £250 ar lamplen “Marchysgall” Poul Henningsen, sydd i’w gweld yn goleuo bron pob golygfa.

spacer

Yn wir, mae’r “Marchysgall” ar yr un wish-list â’r siwmper o wlanen Ynys Faroe gan Gudrun & Gudrun sydd ar werth am bron i £300 – canpunt yn fwy ers i’r actores Sofie Gråbøl ei ddewis fel iwnifform anffurfiol ei chymeriad eiconig, Ditectif Sarah Lund yn Forbrydelsen (The Killing), y gyfres Ddaneg a ragflaenodd Borgen ar BBC Four – ac a ysbrydolwyd yn rhannol gan y gyfres dditectif Ffrangeg Enrenages (Spiral), sydd hefyd yn darlledu ar BBC Four.
Sut goblyn felly lwyddodd y cyfresi hyn fy hudo i a miloedd tebyg, ac sy di’n gadael ni’n awchu am ragor?
Ar yr arwyneb, roedd Borgen yn sebon slic a safonol gafodd ei chymharu ag un o gyfresi  drama mwyaf llwyddianus yr Unol Daleithiau, The West Wing. Ond mae na gryn dipyn mwy iddi na hynny. Mae Borgen, fel Forbrydelsen, yn un o gynyrchiadau’r cwmni darlledu gwasnaeth cyhoeddus DR sy’n gwario £20 miliwn ar ei chyllid blynyddol o £250 miliwn ar ddrama – swm cymharol fychan sy’n golygu bod rhaid dethol prosiectau’n ofalus. Y mae’r sgriptiau gaiff eu dewis yn allweddol, ac yn llywio gweledigaeth pob cyfres  yn llwyr.

Ymhelaethwyd ar hyn gan erthygl ddiddorol yn y Guardian yn ddiweddar.

The rules are straightforward. Commissioners insist on original drama dealing with issues in contemporary society: no remakes, no adaptations. The main requirement is material for the popular 8pm slot on Sundays. Writers have the final say. [Cynhyrchydd, Camilla] Hammerich said: “We give them a lot of space and time to develop their story. The vision of the writer is the centre of attention, we call it ‘one vision’ – meaning everyone works towards fulfilling this one vision, and very few executives are in a position to make final decisions. I believe this is part of the success.”

Dychmygwch y fath weledigaeth ar gyfer S4C am 8 o’r gloch ar nos Sul! Mae’n wir fod y dramau hyn gryn dipyn mwy herfeiddiol na chyfresi arferol y sianel Gymraeg – yn sicr yn achos Forbrydelsen – ac yn gofyn mwy o ganolbwyntio gan y gwyliwr- ond mae eu  llwyddiant diweddar ar sianel BBC Four (gwyliodd 629,000 o bobol y benod gynta, sef cyfran o 2.6% o’r gynulleidfa a oedd yn gwylio’r teledu rhwng 9-10 y noson honno) yn dangos fod na awch aruthrol am ddrama slic ag iddi gryn dipyn o sylwedd.

Mae hyn oll yn adleisio ffenomenon lenyddol y ddegawd ddiwethaf, sef llwyddiant ysgubol llenyddiaeth Llychlynaidd. Mae blocbysters mawrion Henning Mankell, Jo Nesbø, Stieg Larsson a’u tebyg yn tyrchu – trwy gyfrwg y genre dirgelwch, a’r arwyr Kurt Wallander, Harry Hole, Mikael Blomkvist a Lisbeth Salander – i gyfrinachau tywyll y gwladwriaethau goleuedig hyn sy’n arweinwyr byd mewn cyfoeth, ansawdd bywyd a gwerthoedd rhyddfrydol ac egalitaraidd, gan fynnu atgyfodi hanes amwys y gwledydd hyn adeg – ac yn dilyn – yr Ail Ryfel Byd.

Does ond angen dychwelyd rhai misoedd at drychineb ynys Utøya yn Norwy ar Orffenaf 22 i brofi nad paranoia creadigol fu’n gyfrifol am drioleg byd-enwog Stieg Larsson a gychwynwyd gyda Män Som Hattar Kvinnor (The Girl With The Dragon Tattoo)- cyfres a ysbrydolodd gyfres o ffilmiau yn Sweden, ac adweithiad Americanaidd hynod lwyddianus gan David Fincher yn ddiweddar – ond gyrfa gyfan, tan ei farwolaeth disymwth yn 2004, fel newyddiadurwr ymgyrchol fu’n ymchwilio’n ddi-flino i’r grymoedd tywyll hyn.

Fel nifer yn Norwy, gadawodd y gyflafan honno argraff enfawr ar Jo Nesbø – yr ymchwilydd economaidd a chanwr pync a drodd yn lenor llwyddianus ar ôl dechrau sgwennu am hanes y ditectif alcoholig Harry Hole – ac mae e wedi dweud y caiff y drychineb effaith bendant ar ei sgwennu ef a’i gyd-lenorion yn Norwyam flynyddoedd i ddod.

Y newyddion da i filiynau o’i ddarllenwyr ffyddlon yw fod Nesbø yn benderfynol o barhau gyda chyfres Harry Hole – am gyfnod ta beth, o gofio natur hunan-ddinistriol ei arwr anfarwol. Yn anlwcus i mi, gorffennais The Leopard – y nofel ddiweddara yn ei gyfres ardderchog – er mwyn llenwi’r gwacter yn dilyn diweddglo cyfres ysgubol Forbrydelsen II, gyda’r Harry Hole benwyaidd, Sarah Lund (Sofie Gråbøl) yn y brif ran.

spacer Diolch byth felly am Borgen, am sefyll yn y bwlch – a dychweliad annisgwyl partner Lund, Ulrik Strange, fel Philip Christensen – gwr Birgitte!

Ond be nesa?

I chi, fel fi, sydd yn ysu am ragor, mae 2012 yn gaddo llond trøll o sagas Sgandinafaidd i’n cadw ni fynd ymhell tan y flwyddyn nesa, gan ddechre ymhen rhai wythnosau ar ITV3 gyda drama arall gan DR – Den Som Dræber (Those Who Kill); drama dditectif sy’n archwilio seicoleg llofruddion lluosog yn null Wire In The Blood, gyda phartneriaeth ganolog rhwng Inspector Katrina Ries Jensen (Laura Bach) a Magnus Bisgaard (Lars Mikkelsen – a chwaraeodd yr hottie gwleidyddol, Troels Hartmann yn Forbrydelsen).

Yn dilyn hynny yn y Gwanwyn, bydd BBC Four yn darlledu cyfres a enillodd ganmoliaeth aruthrol yn ei mam-wledydd yn ddiweddar, sef Bron/Broen (Y Bont), cyd-gynhyrchiad rhwng DR â’r cwmni cyfatebol yn Sweden SVT sy’n cychwyn â darganfyddiad erchyll ar bont Orseund sy’n uno’r ddwy wlad – a’r cyntaf o gynllun cyd-gynhyrchu hir-dymor.
Sebastian Bergman, mae’n debyg, fydd y ddrama nesa o Sweden i ddarlledu ar BBC Four, cyn carlamu mlaen at Forbrydelsen III a Borgen II cyn Nadolig 2012.

Methu diodde’r boen o aros tan hynny? Beth am estyn am gatalog diweddara Skandium, penodwch gelficyn eich breuddwydion, a pharatewch Smorgasbord llawn Smørrebrød a Kanelsnegle . Estynwch wahoddiad i griw da o ffrindiau am noson o Hygge – “cwtch” cymdeithasol dros bryd da o fwyd.

A da chi, cofiwch gynnig llwnc destun a “Tak” i’r cyfeillion absennol – y cymeriadau cofiadwy hynny sy’ dros fisoedd llwm y Gaea yn gwmni gwych i ni oll.

Cyfres gyntaf Borgen ar BBC iPlayer

Cofnodwyd yn Teledu | Tagiwyd BBC 4, BBC Four, Borgen, Forbrydelsen, The Killing | 3 Sylw

Supercuts: dadansoddi cliché Hollywood a mwy trwy fideo

Cofnodwyd ar 16 Ionawr 2012 gan Carl Morris

Fy obsesiwn newydd yw Supercuts, fideos doniol sydd yn casglu clipiau ar thema. Maen nhw wedi bodoli am flynyddoedd yn ôl y sôn ond nawr mae rhywun o’r UDA o’r enw Andy Baio wedi casglu pob un o YouTube a Vimeo.

Bydd yr enghreifftiau isod yn egluro’r apêl.

Dyma casgliad o ffilmiau lle mae cymeriad yn dweud ‘You just don’t get it, do you?’.

Dw i’n caru’r casgliad yma o sinau gyda drych mewn ffilmiau arswyd.

Mae’r diweddar Steve Jobs yn dweud ‘Boom’ mewn cyflwyniad sawl gwaith. Joio.

Mae cyfanswm o 295 fideo Supercut ar y wefan supercut.org hyd yn hyn gan gynnwys ffilm, gemau, teledu a bywyd go iawn.

Gweler hefyd: Kevin Kelly, sefydliwr cylchgrawn Wired, yn trafod Supercuts.

Cofnodwyd yn Celf, Comedi, Ffilm | Tagiwyd Apple, ffilmiau, Hollywood, Kevin Kelly, sgript, Steve Jobs, Supercut | 6 Sylw

Gweledigaeth 360? Hoff draciau 2011

Cofnodwyd ar 9 Ionawr 2012 gan Rhodri ap Dyfrig

Mae rhestrau 10 uchaf yn un o’r ffurfiau yna o ysgrifennu sydd yn mynnu ymateb. Dyna ydi eu pwrpas nhw’n aml iawn. Mae rhestr fel hyn mor oddrychol, ond eto, mae’r ffaith ei fod yn cael ei argraffu mewn papur newydd neu gylchgrawn yn aml yn rhoi’r argraff (heb drio gwneud hynny) ei fod yn definitive.  Wrth gwrs, mae pawb sydd â ffefryn sydd ddim ar y rhestr yn teimlo rywsut bod y rhestr yn RONG. “On’d yw hiwmor yn rhywbeth personol” meddai’r feddargraff ar grys-t rhaglen Hwyrach Slaymaker bac in ddy dei, a dyw cerddoriaeth ddim gwahanol debyg. Ond mae na asgwrn gen i i’w grafu efo rhestr ddiweddar.

Mi ddarllenais i restr 10 cân uchaf 2011 Owain Sgiv ar flog Golwg360 gyda diddordeb (Rhan 1 a Rhan 2), ond mae’n rhaid cyfadde i mi gael fy siomi gan rychwant yr arddulliau oedd yn cael ei arddangos yn y caneuon. Mae’r rhestr i gyd wedi ei boblogi gan ddynion ac i gyd bron yn gerddoriaeth sydd er efallai ddim i gyd yn beth allai rywun alw’n indie, yn yr un cyffiniau.  O’n i’n disgwyl gweld ambell i curveball yna, ambell syrpreis sonig i dawelu fy meddwl. O’n i’n sicr yn disgwyl gweld merch yna, ond wela i ddim syrpreis yn y pac yma sori. Ydi sîn gerddoriaeth Gymraeg wir yn meddu ar cyn lleied o amrywiaeth â hynny?

spacer

Lleuwen: un o'r artistiaid 'eraill' llynedd?!

Dwi’n gwybod yn sicr nad ydi’r rhestr fod yn gynrychioladol, ac efallai wir ei bod yn anheg honi bod Sgiv yn awgrymu hynny, ond oes dim un artist electronig yno er enghraifft, er bod nifer o gerddorion Cymraeg gwych yn torri cwys yn y maes yma, a’u bod wedi bod yn cael eu chwarae gan DJs radio Cymraeg a Saesneg. Does dim merchaid yno, er bod nifer fawr o ferchaid talentog a gwych yn artistiaid solo ac aelodau o fandiau Cymraeg (be ddigwyddodd i Rufus Mufasa gyda llaw?). Lle mae nhw?

Dwi ddim am ymateb gyda deg uchaf fy hun, ond mi hoffwn i gynnig rai synau sydd yn mynd tu hwnt i’r hyn mae Sgiv yn gynnig, er mwyn trio dangos ychydig o’r amrywiaeth dwi’n weld. Mae llawer heb iaith, lot yn electronig, mae gan rai deitl Saesneg (oooh!), ond mae nhw gyd gan Gymry Cymraeg hyd y gwn i ac yn haeddu cael eu trin fel rhan o sîn gerddoriaeth Gymraeg. Faswn i wrth fy modd yn clywed am rai traciau eraill sydd falle heb gael sylw digonol, felly postiwch ddolen iddyn nhw yn y sylwadau.

Y Pencadlys – Ymestyn Dy Hun

Ifan Dafydd – Miranda

Crash.Disco! – Chezza V

Y Gwrachod – SaiMo

The High Society – Nos Ddu (live in the woods)

Gwibdaith Hen Frân – Trôns Dy Dad (Plyci Mix)

Jakokoyak (feat. Stuart Jones) – 2 Lions Fflat

Trwbador – Eira (Avan Rijs Remix)

Huw M – Ba Ba Ba (Dileu Remix)

Y Llongau – Llwyd

Ojn – Tonfedd Oren

Kronwall – Y Gwir (Plyci Mix)

Aeron – Clear Morning

Auftrag – International Gemological Symposium (1991)

Banc – Arogl Neis

Codex Machine – Santa vs. Barbara

Daniel ‘Dano’ Llyr Owen – Fi ‘di Fi, Gary! by Gary Bendwr

El Parisa – Lleuad Llachar

JG Mix (demo)

Y Bwgan – Penmon 95

Lleuwen – Dwi’n Gweld

Pocket Trez – Ie Ie Ie

Dr Wuw – Bong Song

MC Mabon, Ed Holden, Tesni Jones, Ceri Bostock a Dave Wrench – Dwi’n Dod o Rhyl (trac 3)
www.bbc.co.uk/radiocymru/c2/safle/unnos/orielau/rhaglen12.shtml

Cofnodwyd yn Cerddoriaeth | Tagiwyd Golwg360, SRG | 10 Sylw

Uni Acronym gan Alva Noto gyda Anne-James Chaton

Cofnodwyd ar 7 Ionawr 2012 gan Carl Morris

gipoco.com is neither affiliated with the authors of this page nor responsible for its contents. This is a safe-cache copy of the original web site.