Eisteddfod 2012 yn galw am gelf
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn galw ar artistiaid a chrefftwyr i yrru eu ceisiadau ar gyfer arddangosfa agored Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012.
“Yr arddangosfa hon yw un o binaclau ein calendr diwylliannol,” meddai Swyddog Celfyddydau Gweledol y Brifwyl, Robyn Tomos. “Mae hi’n rhan annatod o wead y celfyddydau gweledol. Mae sioe flynyddol yr Eisteddfod Genedlaethol yn dathlu’r gorau o fewn y celfyddydau gweledol yng Nghymru ac mae’r gwaith sy’n cael ei arddangos ynddi’n cael ei ystyried fwyfwy o safon ryngwladol. Mae hi’n adlewyrchu’r rhagoriaeth, dyfeisgarwch a’r ymroddiad sy’n bodoli o fewn ein cymuned artistig. Dyma wahoddiad i bob artist a chrefftwr cymwys i anfon eu gwaith i’w hystyried.”
Ym Mro Morgannwg 2012, bydd yr Eisteddfod yn gwahodd y beirniad celf o’r Iwerddon, Declan McGonagle, Cyfarwyddwr Coleg Cenedlaethol Celf a Dylunio, Dulyn, i ymuno â’r artist a’r mentor o Gaerdydd, Sean Edwards a’r artist cymhwysol a’r curadur, Laura Thomas, Urdd Gwneuthurwyr Cymru, i ddethol yr arddangosfa.
“Rwy’n edrych ymlaen at gael fy nghyflwyno i waith artistiaid a fydd, ar y cyfan, yn anadnabyddus i mi a gweld sut y maen nhw’n mynegi eu syniadau, defnyddio amrywiol gyfryngau ac ymdrafod â’u synnwyr o amser a lle,” meddai Declan McGonagle. “Mae gweld cysylltiadau, a sut mae gwahaniaethau yn codi rhwng cyd-destunau gwahanol, wastad yn ddiddorol. Dyna’r union gyfle y mae Arddangosfeydd Agored yn ei gynnig - i weld yr annisgwyl, yr anarferol a’r anhysbys. Maen nhw hefyd yn rhoi siawns i’r artistiaid hynny, sydd efallai ddim yn rhan o’r brif ffrwd, i arddangos ac i’w gweld gan gynulleidfa ehangach.”
Yn 2004 daeth Declan McGonagle i Gymru i helpu dethol gwobr ryngwladol Artes Mundi gyntaf un. Mae ganddo ddiddordeb mawr yn y dolennau rhwng y gwahanol ffyrdd o greu a’r rhesymau gwahanol y tu ôl i’r creu. Hynny ynghyd â’r berthynas sydd bellach rhwng traddodiad, celfyddyd newydd a chyfryngau newydd.
“Yng nghyd-destun Cymru, fe fydd yn ddiddorol gweld sut y mae artistiaid yn ymdrin â materion yn ymwneud â hunaniaeth ddiwylliannol, boed yn drefol neu wledig,” meddai, “a hefyd, sut y maen nhw’n dod i delerau gyda’r gwrthdaro rhwng bywyd traddodiadol a chyfoes a’r gwrthdaro rhwng creu gwrthrychau ac arfer ddigidol neu rith gyfryngol.”
Yn ogystal â dethol yr Arddangosfa Agored, bydd y panel yn cydnabod rhagoriaeth ac ymroddiad drwy ddyfarnu’r Fedal Aur am Gelfyddyd Gain, Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio a’r Ysgoloriaeth Artist Ifanc.
Mae'r arddangosfa yn agored i'r rhai a aned yng Nghymru, neu ag iddynt rieni o Gymry, neu i'r sawl a fu'n byw neu'n gweithio yng Nghymru am y tair blynedd cyn 4 Awst 2012, neu unrhyw berson sy'n siarad neu ysgrifennu Cymraeg.
Bob blwyddyn, mae dros 2,750 o geisiadau yn dod i law ac mae Y Lle Celf (Pafiliwn Celfyddydau Gweledol) yn yr Eisteddfod yn denu hyd at 40,000 o ymwelwyr.
Y dyddiad cau yw 1 Mawrth 2012.
Mae adran Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod Genedlaethol yn gweithredu mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru.