spacer
Companies--> -->

Amdanom ni

Mae Theatr Mwldan yn ganolfan cyflwyno a chynhyrchu bywiog sydd wedi ei lleoli yn Aberteifi, yng nghanol cefn gwlad brydferth Gorllewin Cymru.
Gyda ymroddiad tuag at arloesi, gweledigaeth a rhagoriaeth, cafodd Theatr Mwldan ei disgrifio gan Gyngor Celfyddydau Cymru fel ‘rhagorol’ ac fel ‘model o ymarfer gorau a rhagoriaeth’ am ei gwaith teithio a chynhyrchu. Yn ddiweddar, derbyniodd Theatr Mwldan Gwobr Beacon am 2008 a 2009 o Gyngor Celfyddydau Cymru, un o ond 22 sefydliad y celfyddydau yng Nghymru i dderbyn y gydnabyddiaeth arbennig hon.

Mae gan Theatr Mwldan rôl bwysig mewn cyfrannu tuag at adfywiad economeg, cymdeithasol a diwylliannol lleol Aberteifi a’r cyffiniau. Mae Theatr Mwldan yn sefydliad nid-am-elw sy’n cyfuno gweithgaredd economaidd gyda phwrpas cymdeithasol a moesegol.  Wrth galon y Mwldan yw’r cred y gall y celfyddydau gyflwyno profiadau gall newid a gwella ein bywyd ac sy’n meddu ar y p?er i newid canfyddiadau a chynyddu goddefiad, torri ar raniadau diwylliannol a chaniatáu mwy o ddealltwriaeth – sydd mor addas ar gyfer y gymuned rydym yn rhan ohoni ag y mae i’r blaned rydym yn byw arni. Mae’r weledigaeth hon wrth wraidd Theatr Mwldan a’i holl weithgareddau.

Yn arbenigo mewn cynhyrchu teithiol a logisteg, rheoli cyllid a gweinyddiaeth taith, a gyda enw da am ansawdd ac effeithiolrwydd ei marchnata, mae’r Mwldan wedi rhoi’r cyfle i nifer o artistiaid deithio’n eang y rhwydwaith gwych o leoliadau, theatrau a chanolfannau y celfyddydau yng Nghymru. Dros y pump blynedd diwethaf mae Theatr Mwldan wedi cyd-gynhyrchu mwy na 40 prosiect teithiol, gan arbenigo mewn cerddoriaeth fyd, cerddoriaeth draddodiadol a drama. Rydym wedi dod â nifer o actau ac artistiaid rhyngwladol eithriadol o bob cwr o’r byd i deithio Cymru, ac wedi cynhyrchu prosiectau o fewn Cymru sydd ar gael i deithio’n fyd-eang.

Hyd yn hyn, mae dros 100,000 o bobl yn y pump blynedd diwethaf yn unig wedi gwylio gwaith sydd wedi ei gynhyrchu a’i deithio gan Theatr Mwldan, gan ein gwneud yn un o leoliadau cynhyrchu mwyaf toreithiog Cymru.


gipoco.com is neither affiliated with the authors of this page nor responsible for its contents. This is a safe-cache copy of the original web site.